Cafodd Udara ei fagu yn Aberystwyth a threuliodd bum mlynedd yn Llundain, gan orffen ei hyfforddiant israddedig yn 2011; yna, dychwelodd adref i fyw ac i weithio.
Cwblhaodd Udara ei hyfforddiant sylfaenol yn llwyddiannus yn ein practis a bellach mae’n ymarferydd cysylltiol gwerthfawr.
Ar hyn o bryd, mae Udara yn darparu orthodonteg yn y practis.
Ein staff
Yn ogystal â’n deintyddion a’n hylenydd yn Eastgate Dental, mae gennym dîm cryf o staff ymroddedig i’n cefnogi. Maent yn cynnwys nyrsys tra hyddysg a chymwys sy’n gofalu amdanoch yn ystod eich triniaeth yn ogystal â’n tîm rheoli a gweinyddu profiadol.
Rydym wedi ymrwymo i hyfforddiant a datblygiad proffesiynol parhaus ein holl staff ac maent yn cael eu cefnogi’n llawn i sicrhau bod y driniaeth a ddarparwn o safon uchel a chyfredol.