Deintyddiaeth Gyffredinol
Rydym yn cynnig amrywiaeth flaengar o driniaethau arferol ar gyfer pob oedran er mwyn helpu i gynnal gwenau iach eich teulu.
Mae pob ymgynghoriad yn cynnwys archwiliad clinigol trylwyr, pelydrau-x digidol, lle bo’n briodol, a thrafodaeth fanwl i ddeall anghenion eich triniaeth a’ch dymuniadau. Caiff yr holl opsiynau o ran triniaeth addas eu nodi’n glir cyn cytuno ar gynllun eich triniaeth.
Mae dewis eang o opsiynau ar gyfer triniaethau deintyddol ar gael sy’n defnyddio’r technegau, y deunyddiau a’r dechnoleg ddiweddaraf. Mae hyn yn galluogi ein tîm o glinigwyr i greu cynlluniau triniaeth pwrpasol sy’n gweddu i chi a’ch anghenion.
Deintyddiaeth i’r Teulu
Ein cenhadaeth yw atal pydredd a hyrwyddo gwên iach i bawb, yn enwedig plant bach, ac rydym wedi ymrwymo i helpu pawb i gynnal iechyd da o ran eu ceg.
Gweithdrefnau Esthetig yn Eastgate Dental
Mae gwên naturiol, hyderus yn un o’r nodweddion mwyaf deniadol y gall unrhyw un feddu arni. Mae datblygiadau deintyddol yn ein galluogi i adfer, adfywio a gwella iechyd, golwg a chyflwr eich ceg; hyd yn oed pan fo’ch dannedd a’ch gymiau mewn cyflwr difrifol. Bellach, mae technoleg fodern yn darparu amrywiaeth eang o weithdrefnau deintyddol a all wella golwg eich gwên yn gyflym ac yn syml.
Triniaeth Hylendid
Clefyd y gymiau yw un o brif achosion colli dannedd a’r newyddion drwg yw bod y clefyd fel arfer yn hollol ddi-boen hyd nes ei fod wedi datblygu’n helaeth ac weithiau, mae’n rhy hwyr i’w drin. Bydd ein hylenydd profiadol yn gweithio gyda chi i atal niwed a gwella iechyd eich gymiau. Bydd hefyd yn helpu i gynnal ceg ac anadl ffres.
Gwynnu Dannedd
Mae gwynnu dannedd yn broffesiynol o dan oruchwyliaeth eich deintydd yn ffordd ddiogel a chyflym i wella golwg eich gwên. Rydym yn defnyddio system gwynnu dannedd ddatblygedig i greu gwelliannau dibynadwy a disgwyliadwy, hyd yn oed gyda dannedd unigol! Nid yw gwynnu dannedd yn effeithiol i bawb, felly mae’n bwysig ein bod yn eich asesu’n drylwyr i wneud yn siŵr eich bod yn addas.
Argaenau
Bydd eich deintydd yn tynnu haen denau o enamel o du blaen ac ochr y dant ac yn gosod haen o borslen seramig yn ei lle. Mae hon yn weithdrefn syml a all wella golwg eich gwên yn sylweddol. Gellir defnyddio argaenau i newid siâp a disgleirdeb eich dannedd.
Llenwadau Lliw Dannedd
Erbyn hyn, mae’n arferol i ddefnyddio deunyddiau lliw dannedd i lenwi dannedd, yn hytrach na llenwadau hŷn a mwy cyffredin o fetelau lliw arian. Mae yna ffordd ddibynadwy o asio’r deunyddiau cyfansawdd hyn i’r dant sy’n golygu bod y canlyniadau terfynol yn hynod gryf a deniadol.
Corunau
Rydym yn darparu corunau os yw’r dant mewn cyflwr difrifol neu wedi’i lenwi’n drwm. Mae technoleg deunyddiau corun yn esblygu’n barhaus a bellach mae modd cyflawni canlyniadau gwych, sy’n rhywbeth i wenu yn ei gylch.
Orthodonteg
Gallwn yn awr gynnig nifer o opsiynau cynnil i’n cleifion i gael gwared ar yr embaras o wên gam.