Prisiau’r GIG
Os ydych wedi’ch eithrio rhag taliadau deintyddol y GIG, byddwch yn derbyn triniaeth am ddim.
Os ydych yn talu am driniaeth ddeintyddol y GIG, mae tri thaliad safonol. Mae’r tri band hyn yn ei gwneud yn hawdd ichi wybod faint y bydd angen i chi o bosibl ei dalu am y gofal a gewch.
Prisau o 1af Ebrill 2019
- Band 1
Archwiliad, diagnosis a chyngor ar sut i atal problemau i’r dyfodol a thynnu cen a sgleinio os bydd angen. Mae triniaeth ar y lefel hon yn costio £14.70.
- Band 2
Mae hyn yn cwmpasu popeth ym mand 1, yn ogystal â thriniaethau pellach megis llenwadau, triniaethau sianel y gwreiddyn a thynnu dannedd. Mae triniaeth ar y lefel hon yn costio £47.00.
- Band 3
Mae’r band hwn yn cynnwys popeth ym mandiau 1 a 2, ond mae hefyd yn cynnwys corunau, dannedd gosod neu bontydd. Mae triniaeth ar y lefel hon yn costio £203.00.