Ein Cynllun Gofal Tymor Llawn
Byddwn yn cynnal asesiad i sicrhau y bydd ein cynllun yn bodloni’ch anghenion a byddwch yn cael gwybod am y swm misol i’w dalu ar gyfer eich holl driniaeth ddeintyddol arferol.
- Pob archwiliad iechyd deintyddol rheolaidd
- Pob apwyntiad hylendid gan gynnwys tynnu cen a sgleinio a chyngor periodontol lle bo angen clinigol am hynny
- Pob pelydr-x
- Pob llenwad
- Pob gwaith ar y corun a’r bont (noder – codir ffi am unrhyw waith labordy)
- Triniaeth sianel y gwreiddyn o fewn cwmpas practis cyffredinol
- Cyngor helaeth ar fesurau ataliol
- Cerdyn aelodaeth gyda rhifau llinell gymorth 24 awr ar gyfer argyfyngau deintyddol brys, gartref neu dramor
- Yswiriant atodol byd-eang ar gyfer anaf ac argyfwng deintyddol
I gael manylion pris y ddau gynllun, cysylltwch â’n tîm yn y dderbynfa a fydd yn hapus i drafod y cynllun gyda chi a rhoi rhagor o wybodaeth i ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych.
D.S. Pob triniaeth ac eithrio mewnblaniadau ac orthodonteg