Mae hyn yn cynnwys eich holl ofal deintyddol ataliol
Mae ymchwil yn dangos bod deintyddiaeth ataliol, o’i darparu’n rheolaidd, yn arwain at leihad sylweddol yn y perygl o glefyd deintyddol ac yn gwella iechyd y geg am oes.
O’ch rhan chi, dylai hyn leihau’r angen am driniaeth yn y dyfodol a rhoi tawelwch meddwl y cwmpesir eich holl ofal deintyddol ataliol gan daliad misol cyfleus.
Mae’r cynllun hefyd yn cynnwys yswiriant atodol byd-eang ar gyfer argyfyngau neu anafiadau deintyddol, gartref neu dramor.
Gallwch dalu am eich holl ofal deintyddol ataliol trwy daliadau Debyd Uniongyrchol misol cyfleus, gan ddarparu:
- Cyllidebu – wedi’i wneud yn haws
- Cofrestru Gwarantedig – gyda’n practis ni
- Mynediad â blaenoriaeth – at eich deintydd
- Ymuno â’r cynllun ar unwaith – dim angen asesiad
- Canfod yn gynnar – unrhyw broblemau deintyddol; atal poen, anghysur ac anghyfleustra
- Amseroedd apwyntiad sy’n addas i chi – pryd bynnag y bo modd
- Gostyngiadau – ar yr holl ffioedd triniaeth
- Archebu â blaenoriaeth – pan geir argyfwng deintyddol
- Mynediad 24 awr – i’r llinell gymorth argyfwng deintyddol 365 diwrnod y flwyddyn
- Tawelwch meddwl – yswiriant atodol ar gyfer anaf ac argyfwng deintyddol, gartref neu dramor
I gael manylion prisiau, cysylltwch â’n tîm yn y dderbynfa a fydd yn hapus i drafod y cynllun gyda chi a rhoi rhagor o wybodaeth i ateb unrhyw gwestiwn sydd gennych.